2011 Rhif 963 (Cy. 137)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

 Mae adran 1 o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2010 (“y Mesur”) yn rhoi i awdurdodau lleol yng Nghymru bŵer disgresiynol i godi ffi resymol ar oedolion sy’n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl, a ddarperir yn uniongyrchol neu a sicrheir gan yr awdurdod lleol (“defnyddwyr gwasanaeth”). Mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud Rheoliadau o dan y Mesur, sef Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Ffioedd”), ac y mae’n ofynnol bod awdurdodau lleol yn cydymffurfio â hwy wrth arfer y pŵer hwn.

Mae adran 12 o’r Mesur yn rhoi pŵer disgresiynol i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth mewn rheoliadau, sy’n cyfateb i’r ddarpariaeth ar gyfer defnyddiwr gwasanaeth (a wneir yn y Mesur ac yn y Rheoliadau Ffioedd), sef bod oedolyn sy’n dderbynnydd taliadau uniongyrchol (“D”) yn cael taliadau o’r fath i sicrhau darpariaeth o wasanaethau iddo’i hunan, yn unol â Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau i Ofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2011, a wnaed o dan adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001.

Nid yw’n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn bod awdurdod lleol yn ceisio cael unrhyw daliad (ar ffurf ad-daliad na chyfraniad) gan D tuag at y gost o sicrhau y darperir y gwasanaeth, neu’r cyfuniad o wasanaethau, wrth i’r awdurdod wneud taliad uniongyrchol i D i’w alluogi i sicrhau darpariaeth o “wasanaeth y caniateir codi ffi amdano”; fodd bynnag, mewn achosion pan yw’n ofynnol gan awdurdod lleol bod D yn gwneud taliad tuag at gost sicrhau gwasanaeth o’r fath, rhaid i’r awdurdod lleol gydymffurfio â darpariaethau perthnasol y Rheoliadau hyn ac unrhyw reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 16 o Ddeddf Gofal Cymunedol (Rhyddhau Gohiriedig etc) 2003.

Mae rheoliad 4 yn rhagnodi’r amgylchiadau pan na chaniateir i awdurdod lleol ofyn am unrhyw daliad gan D tuag at y gost o sicrhau darpariaeth o wasanaeth.

Mae rheoliad 5 yn rhagnodi bod y pŵer sydd gan awdurdod lleol i benderfynu’r “swm rhesymol” y caniateir gofyn i D ei dalu tuag at y gost o sicrhau gwasanaeth yn ddarostyngedig i uchafswm rhesymol o £50 yr wythnos. Mae’r rheoliad hefyd yn cynnwys goleddfiadau i’r gosodiad cyffredinol hwnnw ac yn pennu’r camau y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu cymryd wrth gyfrifo’r swm y gall D fod yn atebol i’w dalu.

Mae’r rheoliadau 6 i 16 yn rhoi manylion ynghylch y camau yn y broses o asesu modd ariannol D; a hefyd yn pennu pa faterion y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu cymryd i ystyriaeth wrth asesu modd D ac wrth wneud penderfyniad ynglŷn â gallu D i dalu swm rhesymol tuag at gost y gwasanaeth yr aseswyd bod arno’i angen.

Mae rheoliad 7 yn gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn gwahodd D i ofyn am asesiad modd. Mae’r rheoliadau dilynol yn gwneud darpariaeth ynghylch y terfynau amser ar gyfer cyflenwi gwybodaeth neu ddogfennaeth i awdurdod lleol (rheoliad 8), ceisiadau am estyn yr amser a ganiateir ar gyfer darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth (rheoliad 9), y canlyniadau os peidir ag ymateb, yn llawn neu o gwbl, i wahoddiad i ofyn am asesiad modd (rheoliadau 10 ac 11) a hawl D i dynnu’n ôl gais am asesiad (rheoliad 12).

Mae rheoliad 13 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i gynnal asesiad o fodd ariannol D mewn amgylchiadau rhagnodedig, a rheoliad 14 yn pennu’r amgylchiadau hynny.

Mae rheoliad 15 yn pennu amgylchiadau pan nad oes dyletswydd ar awdurdod lleol i gynnal asesiad modd.

Mae rheoliad 16 yn cynnwys darpariaeth y mae’n rhaid i awdurdod lleol roi effaith iddi wrth gynnal asesiad o fodd D.

Mae rheoliad 17 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r materion y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu ynglŷn â gallu D i dalu swm rhesymol tuag at gost y gwasanaethau yr aseswyd bod arno’u hangen.

Mae rheoliad 18 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r ddyddiad y caniateir gwneud ad-daliad neu gyfraniad yn ofynnol ohono.

Mae rheoliad 19 yn cynnwys gofynion ynglŷn â’r wybodaeth y mae’n rhaid i awdurdod lleol ei darparu mewn unrhyw ddatganiad a ddyroddir ganddo i D.

Mae rheoliad 20 a 21 yn cynnwys darpariaeth arbedion ar gyfer asesiadau modd a phenderfyniadau ynglŷn â’r gallu i dalu tuag at y gost o sicrhau gwasanaeth, a wnaed cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Mae rheoliadau 22 ac 23 yn cynnwys darpariaethau trosiannol a darfodol.


2011 Rhif 963 (Cy. 137)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011

Gwnaed                               24 Mawrth 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru             29 Mawrth 2011

Yn dod i rym                           11 Ebrill 2011

 

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 12 a 17(2) o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2010([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011, a deuant i rym ar 11 Ebrill 2011.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “asesiad anghenion” (“assessment of needs”) yw asesiad gan awdurdod lleol o angen D am wasanaethau gofal cymunedol a ymgymerir yn unol ag adran 47 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990([2]) neu adran 1 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000([3]) a rhaid darllen “aseswyd bod arno angen” (“assessed as needing”) yn unol â hynny;

ystyr “asesiad modd” (“means assessment”) yw asesiad o fodd ariannol D a ymgymerir yn unol â rheoliadau 13 ac 16, a rhaid darllen “asesiad o fodd D” (“assessment of D’s means”) yn unol â hynny;

ystyr “budd-dal perthnasol” (“relevant benefit”) yw—

(a)     cymhorthdal incwm; neu

(b)     lwfans cyflogaeth a chymorth; neu

(c)     credyd gwarant;

 

mae i “credyd cynilion” (“savings credit”) yr ystyr a roddir i “savings credit” yn adrannau 1 a 3 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002;

rhaid dehongli “credyd gwarant” (“guarantee credit”) yn unol â’r ystyr a roddir i “guarantee credit” yn adrannau 1 a 2 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002([4]);

ystyr “cyfleuster ymweliadau cartref” (“home visiting facility”) yw ymweliad (neu ymweliadau) gan swyddog priodol awdurdod lleol â chartref neu breswylfa gyfredol D, neu ba bynnag fan cyfarfod arall a fynnir yn rhesymol gan D , at y dibenion o gasglu gwybodaeth i oleuo asesiad modd ar gyfer y person hwnnw ac o ddarparu gwybodaeth a chynnig cymorth mewn perthynas â’r broses honno;

ystyr “cymhorthdal incwm” (“income support”) yw cymhorthdal incwm a delir yn unol ag adran 124 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992([5]);

ystyr “D” (“D”) yw oedolyn a ragnodir at ddibenion—

(a) adran 57(1) o Ddeddf 2001 Act, gan reoliad 3 o Reoliadau 2011 (disgrifiadau rhagnodedig o bersonau o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 – gwasanaethau gofal cymunedol a gwasanaethau i ofalwyr); a

(b)   adran 57(1A) o Ddeddf 2001, gan reoliad 4 o Reoliadau 2001 (disgrifiadau rhagnodedig o bersonau o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 Act – gwasanaethau gofal cymunedol), ac

yn y ddau achos, sydd wedi cael cynnig, neu sy’n cael, neu, yn achos person a ddisgrifir ym mharagraff (b), y mae person addas yn cael mewn perthynas ag ef, daliad uniongyrchol i sicrhau darpariaeth o wasanaeth;

ystyr “darpariaeth ddeuol” (“dual provision”) yw fod anghenion asesedig D yn cael eu bodloni—

(a)   yn rhannol gan awdurdod lleol sy’n darparu neu’n sicrhau gwasanaeth neu wasanaethau i’r person hwnnw, a

(b)   yn rhannol drwy fod D yn cael taliad uniongyrchol er mwyn sicrhau darpariaeth o wasanaeth arall neu o wasanaethau eraill;

ystyr “Deddf 2001” (“the 2001 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001([6]);

 

ystyr “defnyddiwr gwasanaeth” (“service user”) yw oedolyn y cynigiwyd iddo, neu sy’n cael, gwasanaeth a ddarperir gan awdurdod lleol;

 

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu Ŵyl Banc o fewn yr ystyr a roddir i “bank holiday” gan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971([7]);

ystyr “ffi” (“charge”) yw’r swm y caiff awdurdod lleol wneud yn ofynnol bod defnyddiwr gwasanaeth yn ei dalu am wasanaeth a ddarperir neu a sicrheir gan yr awdurdod yn unol ag adran 1(1) o’r Mesur (pŵer cyffredinol i godi ffioedd am wasanaethau gofal);

ystyr “ffi unffurf” (“flat-rate charge”) yw ffi yn ôl cyfradd sefydlog, a godir am wasanaeth y caniateir codi ffi amdano ac a dderbynnir gan ddefnyddiwr gwasanaeth, a osodir gan awdurdod lleol heb ystyried modd y defnyddiwr gwasanaeth;

 

ystyr “gwasanaeth” (“service”) yw gwasanaeth y caniateir codi ffi amdano, a phan fo’r cyd-destun yn mynnu, gwasanaethau y caniateir codi ffi amdanynt neu gyfuniad o wasanaethau y caniateir codi ffi amdanynt, a rhaid dehongli “gwasanaethau” (“services”) a “cyfuniad o wasanaethau” (“combination of services”) yn unol â hynny;

ystyr “gwasanaeth dydd” (“day service”) yw gwasanaeth, sy’n bodloni rhan o anghenion asesedig D, sy’n digwydd y tu allan i gartref y person hwnnw, ac y bwriedir iddo gynorthwyo’r person hwnnw i gwrdd ag eraill, mabwysiadu diddordebau newydd neu ymarfer ei ddiddordebau presennol, ac y mae’n cynnwys cyfleoedd gwaith;

ystyr “hawlogaeth sylfaenol” (“basic entitlement”) yw—

(a) mewn perthynas â chymhorthdal incwm—

y lwfans personol ac unrhyw bremiymau y mae hawl gan D i’w cael, ond nid oes raid cynnwys y premiwm anabledd difrifol (“PAD”) os telir ef, ac os yw D yn ofalwr, mae’n cynnwys unrhyw bremiwm gofalwr y mae’r person hwnnw’n ei gael,

(b) mewn perthynas â lwfans cyflogaeth a chymorth—

y lwfans personol ac unrhyw bremiymau a chydrannau y mae hawl gan D i’w cael, ond nid oes raid cynnwys y PAD os telir ef, ac os yw D yn ofalwr, mae’n cynnwys unrhyw bremiwm gofal y mae’r person hwnnw’n ei gael,

(c) mewn perthynas â chredyd gwarant—

y lwfans personol ac unrhyw swm ychwanegol y mae hawl gan D i’w gael, ond nid oes raid cynnwys y swm a ychwanegir am anabledd difrifol os telir ef, ac os yw D yn ofalwr, mae’n cynnwys unrhyw swm ychwanegol cymwys i ofalwyr y mae’r person hwnnw’n ei gael;

ystyr “incwm asesadwy” (“assessable income”) yw’r rhan honno o incwm D y caniateir i awdurdod lleol wneud penderfyniad mewn perthynas â hi yn unol â rheoliad 17; nid yw’n cynnwys yr incwm y mae’n ofynnol bod awdurdod lleol yn ei ddiystyru yn unol â rheoliad 16;

ystyr “incwm net” (“net income”) yw’r incwm sydd, neu a fyddai, yn weddill gan D, ar ôl didynnu o incwm asesadwy’r person hwnnw y swm safonol (neu unrhyw swm arall) sy’n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn fel taliad tuag at y gost o sicrhau gwasanaeth y mae, neu y bydd, yn cael taliad uniongyrchol ar ei gyfer;

ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth” (“employment and support allowance”) yw naill ai lwfans cyflogaeth a chymorth seiliedig ar gyfraniadau neu lwfans cyflogaeth a chymorth seiliedig ar incwm yn unol â Rhan 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007([8]);

ystyr “mewn ysgrifen” (“in writing”) yw unrhyw fynegiant sydd wedi ei gyfansoddi o eiriau a ffigurau y gellir eu darllen, eu hatgynhyrchu a’u cyfleu drachefn, a gall gynnwys gwybodaeth a drawsyrrir ac a gedwir drwy ddulliau electronig;

ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2010;

 

ystyr “person addas” (“suitable person”) yw person a benodir yn unol â rheoliad 9 o Reoliadau 2011, i gydsynio i daliad uniongyrchol ac i’w gael ar ran D, yn unol â rheoliad 4 o’r Rheoliadau hynny;

ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau i Ofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2011;

 

ystyr “swm safonol” (“standard amount”) yw’r swm y byddai’n ofynnol i D ei dalu tuag at sicrhau darpariaeth o wasanaeth pe na bai asesiad o fodd y person hwnnw neu benderfyniad ynghylch gallu’r defnyddiwr gwasanaeth i dalu, o dan y Rheoliadau hyn, yn cael effaith;

mae i “taliad uniongyrchol” (“direct payment”) yr ystyr a roddir i’r term yn rheoliadau 8 a 9 o Reoliadau 2011, ac y mae unrhyw gyfeiriad at daliad uniongyrchol yn cynnwys, pan fo’r cyd-destun yn mynnu felly, unrhyw ran neu rannau o’r taliad hwnnw.

 

(2) Yn y Rheoliadau hyn, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at D “yn talu” (“paying”) neu’n gwneud “taliad” (“payment”) o swm (tuag at y gost o sicrhau darpariaeth o wasanaeth) fel pe bai’n cynnwys cyfeiriad at dalu neu wneud taliad fel ad-daliad neu gyfraniad([9]).

Taliadau uniongyrchol – penderfyniad gan awdurdod lleol ynghylch swm ad-daliad neu gyfraniad

3. Pan fo awdurdod lleol yn gwneud penderfyniad, yn unol â rheoliad 10(4) neu 11(4) o Reoliadau 2011, ynglŷn â’r swm neu’r symiau (os oes rhai) y mae’n rhesymol ymarferol i D ei dalu neu’u talu tuag at y gost o sicrhau darpariaeth o wasanaeth, rhaid iddo roi effaith i’r canlynol—

(a)     darpariaethau’r Rheoliadau hyn; a

(b)     unrhyw reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 16 o Ddeddf Gofal Cymunedol (Oedi cyn Rhyddhau etc) 2003([10]) (darparu gwasanaethau yn ddi-dâl yng Nghymru).

Personau a gwasanaethau na chaniateir gwneud ad-daliad neu gyfraniad yn ofynnol ganddynt

4.(1) Rhaid i awdurdod lleol beidio â gwneud yn ofynnol, na cheisio cael, unrhyw daliad tuag at y gost o sicrhau darpariaeth o wasanaeth yn unol â Rheoliadau 2011 gan D sydd—

(a)     wedi cael cynnig neu sy’n cael taliad uniongyrchol i sicrhau darpariaeth o wasanaeth, ac sy’n dioddef o unrhyw ffurf o glefyd Creuzfeldt Jacob, pan fo ymarferydd meddygol cofrestredig wedi gwneud diagnosis clinigol o’r clefyd hwnnw;

(b)     wedi cael cynnig, neu sy’n cael, taliad uniongyrchol i sicrhau darpariaeth o wasanaeth, sy’n ffurfio rhan o becyn o wasanaethau ôl-ofal yn unol ag adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal)([11]);

(c)     wedi cael asesiad modd a gynhaliwyd gan awdurdod lleol, ac aseswyd bod ei incwm net yn llai na’r cyfanswm y cyfeirir ato yn rheoliad 17(2).

(2) Ni chaniateir i awdurdod lleol geisio cael unrhyw ad-daliad neu gyfraniad ar gyfer y rhan honno o daliad uniongyrchol y bwriedir iddi gwrdd â chost resymol cludiant ar gyfer bod yn bresennol mewn gwasanaeth dydd, a bod presenoldeb mewn gwasanaeth dydd a darpariaeth o gludiant i alluogi’r cyfryw  bresenoldeb yn gynwysedig yn asesiad anghenion D.

(3) Rhaid i awdurdod lleol beidio â cheisio adennill unrhyw swm gan D tuag at gostau darparu datganiad o wybodaeth a ddarperir yn unol â rheoliad 19.

(4) Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n effeithio ar ddisgresiwn awdurdod lleol i bennu categorïau ychwanegol o D neu o wasanaethau, na chaniateir gwneud taliad o unrhyw swm yn ofynnol ganddynt neu mewn perthynas â hwy, neu geisio cael taliad o’r fath.

(5) Nid yw rheoliadau 5 i 19 yn gymwys i’r personau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) neu (b) o baragraff (1).

Yr uchafswm rhesymol o ad-daliad neu gyfraniad sy’n daladwy

5.(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), yr uchafswm y caiff awdurdod lleol benderfynu sy’n swm rhesymol i D ei dalu tuag at y gost o sicrhau darpariaeth o wasanaeth (“uchafswm rhesymol”) (“maximum reasonable amount”) yw £50 yr wythnos.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), pan fo gan D anghenion asesedig a fodlonir gan ddarpariaeth ddeuol, £50 yr wythnos yw uchafswm cyfanredol y symiau y caiff awdurdod lleol wneud yn ofynnol bod D yn eu talu mewn perthynas â’r ddarpariaeth honno, fel—

(a)     ffi, a

(b)     taliad.

(3) Pan fo awdurdod lleol yn cyfrifo’r uchafswm rhesymol y caniateir gwneud yn ofynnol bod D yn ei dalu—

(a)     rhaid iddo ddiystyru cost sicrhau unrhyw wasanaeth y mae’n codi ffi unffurf amdano, a

(b)     caiff osod y ffioedd mewn perthynas â gwasanaeth o’r fath yn ychwanegol at yr uchafswm rhesymol.

(4) Pan fo D yn cael taliad uniongyrchol i’w alluogi i brynu cyfarpar y byddai awdurdod lleol, fel arall, yn ei ddarparu—

(a)     rhaid i’r awdurdod lleol ddiystyru cost prynu’r cyfarpar wrth gyfrifo’r uchafswm rhesymol y caniateir gwneud yn ofynnol bod D yn ei dalu, a

(b)     caiff wneud yn ofynnol bod D yn talu swm dros ben ac yn ychwanegol at yr uchafswm rhesymol, tuag at y gost o sicrhau’r cyfarpar.

Y weithdrefn ar gyfer penderfynu taliad

6.(1) Wrth benderfynu swm unrhyw daliad a wneir gan D, neu swm y gellir gwneud yn ofynnol bod D yn ei dalu, rhaid i awdurdod lleol fabwysiadu’r weithdrefn a ganlyn—

(a)     cyfrifo swm y gost resymol i’r awdurdod o sicrhau darpariaeth o’r gwasanaeth y mae, neu y bydd, D yn cael taliad uniongyrchol ar ei gyfer;

(b)     o’r cyfanswm hwnnw, diystyru swm unrhyw ffi neu daliad y cyfeirir ati neu ato yn rheoliad 5(3) a (4);

(c)     diystyru costau rhesymol sicrhau ddarpariaeth o gludiant i fod yn bresennol mewn gwasanaeth dydd, pan fo’r gofyniad i fod yn bresennol mewn gwasanaeth dydd yn gynwysedig yn asesiad anghenion D;

(ch) ar y swm canlyniadol gweithredu’r uchafswm rhesymol; ac os byddai’r swm canlyniadol, fel arall, yn fwy na’r uchafswm, yr uchafswm hwnnw, yn ddarostyngedig i is-baragraff (d), yw’r swm y caiff yr awdurdod lleol wneud yn ofynnol bod D yn ei dalu;

(d)     gwneud y swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (ch) yn destun penderfyniad yn unol â rheoliad 17, ynghylch gallu D i wneud taliad.

(2) Ni chymerir y cam y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(d) ac eithrio pan fo—

(a)     D wedi gofyn am asesiad modd; a

(b)     yr awdurdod lleol wedi cynnal asesiad modd,

yn unol â’r Rheoliadau hyn.

Gwahoddiad i ofyn am asesiad modd

7.(1) Rhaid i awdurdod lleol wahodd D i ofyn am asesiad o’i fodd yn unol â rheoliad 13

(a)     os yw’n rhesymol ymarferol gwneud hynny, ar yr adeg y mae’r awdurdod yn cynnig gwneud taliad uniongyrchol i D neu, os yw’n berthnasol, i berson addas;

(b)     os nad oedd yn rhesymol ymarferol rhoi gwahoddiad fel a grybwyllir yn is-baragraff (a), cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud y cynnig;

(c)     os na roddwyd gwahoddiad o dan is-baragraff (a) neu (b) cyn gwneud y taliad uniongyrchol cyntaf i D neu, os yw’n berthnasol, i berson addas, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud y taliad uniongyrchol cyntaf.

(2) Os yw awdurdod lleol o’r farn, yn rhesymol, bod un neu ragor o’r amodau a bennir ym mharagraff (3) yn gymwys, rhaid iddo wahodd D i ofyn am asesiad newydd o’i fodd yn unol â rheoliadau 13 ac 16, gyda golwg ar i’r awdurdod wneud penderfyniad pellach yn unol â rheoliad 17, ynghylch gallu D i wneud taliad.

(3) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

(a)     bod cynnydd, neu gynnydd arfaethedig, yn swm y taliad y mae’n ofynnol i D ei wneud, o ganlyniad i newid ym mholisi’r awdurdod lleol ar godi ffioedd;

(b)     bod newid yn amgylchiadau ariannol D;

(c)     bod newid wedi digwydd yn y gost o ddarparu gwasanaeth, yr aseswyd bod ei angen ar D; neu

(ch) bod camgymeriad wedi ei wneud pan wnaed penderfyniad yn unol â rheoliad 17.

(4) Pan yw’n ofynnol, yn unol â pharagraff (1), bod awdurdod lleol yn rhoi gwahoddiad i D neu, os yw’n berthnasol, i berson addas, ofyn am asesiad o fodd D yn unol â rheoliadau 13 ac 16, neu pan fo awdurdod lleol yn penderfynu gwneud hynny yn unol â pharagraff (2), rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod y gwahoddiad yn cynnwys manylion llawn ynglŷn â’r canlynol—

(a)     y gwasanaethau yr aseswyd bod eu hangen ar D ac y mae taliad uniongyrchol dan ystyriaeth ar eu cyfer;

(b)     polisi’r awdurdod lleol ar godi ffioedd, gan gynnwys y canlynol—

                         (i)    ei bolisi ynglŷn â pha rai, os oes rhai, o’r gwasanaethau y caniateir darparu taliad uniongyrchol ar eu cyfer, y gellir gwneud yn ofynnol bod D yn talu swm tuag at y gost o sicrhau’r gwasanaethau hynny,

                       (ii)    manylion ynghylch y swm safonol y gellir gwneud yn ofynnol bod D yn ei dalu tuag at y gost o sicrhau unrhyw wasanaeth o’r fath,

                     (iii)    manylion ynghylch unrhyw wasanaeth y mae’r awdurdod lleol yn ei sicrhau neu’n ei ddarparu, ac y gall wneud yn ofynnol bod defnyddiwr gwasanaeth yn talu ffi amdano yn unol ag adran 1(1) o’r Mesur (pŵer cyffredinol i godi ffioedd am wasanaethau gofal),

                      (iv)    manylion ynghylch unrhyw wasanaeth y mae’r awdurdod lleol yn gwneud yn ofynnol bod defnyddiwr gwasanaeth yn talu ffi unffurf amdano, a

                        (v)    manylion ynghylch yr uchafswm rhesymol y caniateir ei wneud yn ofynnol neu geisio’i gael yn unol â rheoliad 5, neu’r uchafswm rhesymol a bennir gan yr awdurdod lleol, os yw’r swm hwnnw’n llai;

(c)     proses yr awdurdod lleol ar gyfer asesu modd;

(ch) yr wybodaeth a’r ddogfennaeth y mae’n ofynnol bod D neu, os yw’n berthnasol, berson addas, yn eu darparu er mwyn cynnal asesiad o fodd D;

(d)  y cyfnod o amser, fel a bennir yn rheoliad 8, pan yw’n ofynnol bod D neu, os yw’n berthnasol, berson addas, yn cyflenwi’r wybodaeth a’r ddogfennaeth y cyfeirir atynt yn is-baragraff (dd);

(dd)            ym mha fformat y bydd yr awdurdod lleol yn fodlon derbyn y wybodaeth a’r ddogfennaeth y cyfeirir atynt yn is-baragraff (ch);

(e)  unrhyw gyfleuster ymweliadau cartref a ddarperir gan yr awdurdod lleol o fewn ei ardal;

(f)   y canlyniadau os methir ag ymateb i’r gwahoddiad yn unol ag is-baragraff (d);

(ff) enw’r unigolion o fewn yr awdurdod, y dylai D neu, os yw’n berthnasol, berson addas, gysylltu ag ef pe bai angen gwybodaeth neu gymorth ychwanegol ar y person hwnnw ynglŷn ag unrhyw rai o’r prosesau sy’n gysylltiedig â rhoi’r gwahoddiad;

(g)  hawl D neu, os yw’n berthnasol, berson addas, i benodi trydydd parti i’w gynorthwyo neu weithredu ar ei ran, mewn perthynas â’r cyfan neu ran o’r broses asesu modd; ac

(ng)            manylion cyswllt unrhyw sefydliad o fewn ei ardal sy’n darparu cefnogaeth neu gymorth o’r math y cyfeirir ati neu ato yn is-baragraff (g).

(5) Rhaid i awdurdod lleol ddarparu i D neu, os yw’n berthnasol, i berson addas, yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) mewn ysgrifen, neu mewn unrhyw fformat arall sy’n briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu’r person hwnnw([12]).

Yr ymateb i wahoddiad i ofyn am asesiad modd

8.(1) Rhaid i D neu, yn ddarostyngedig i baragraff (3) neu (4), gynrychiolydd D, ddarparu ymateb i’r awdurdod lleol o fewn 15 diwrnod gwaith (neu ba bynnag gyfnod hwy y caiff awdurdod lleol, yn rhesymol, ei ganiatáu yn unol â rheoliad 9) ar ôl y dyddiad y rhoddwyd y gwahoddiad.

(2) Mae D yn cydymffurfio â’r gofyniad a bennir ym mharagraff (1) os yw’r person hwnnw neu gynrychiolydd y person hwnnw—

(a)     yn gofyn am i’r awdurdod lleol gynnal asesiad modd yn unol â rheoliadau 13 ac 16;

(b)     yn gofyn am gymorth gan unrhyw gyfleuster ymweliadau cartref a ddarperir gan yr awdurdod lleol, pan fo angen cymorth o’r fath;

(c)     yn darparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani gan yr awdurdod lleol, yn y fformat y cytunodd yr awdurdod lleol i’w derbyn ynddo;

(ch) yn darparu’r ddogfennaeth y gofynnwyd amdani gan yr awdurdod lleol;

(d)     yn gofyn am estyniad amser, pan fo angen un, er mwyn darparu’r wybodaeth neu’r dogfennaeth (neu’r ddwy) y gofynnwyd amdani neu amdanynt yn unol â rheoliad 7(4)(ch), gan roi rheswm neu resymau pam y mae angen estyniad amser.

(3) Pan fo D wedi penodi cynrychiolydd i weithredu ar ei ran, rhaid i D ddarparu’r canlynol i’r awdurdod lleol—

(a)     enw a chyfeiriad y cynrychiolydd,

(b)     cadarnhad bod y cynrychiolydd yn fodlon gweithredu ar ei ran,

(c)     manylion ynghylch natur a maint cyfranogiad y cynrychiolydd yn y broses o asesu modd, ac

(ch) manylion ynghylch natur a maint yr wybodaeth y caiff yr awdurdod lleol ei rhannu gyda chynrychiolydd D.

(4)  Pan fo person addas wedi ei benodi yn unol â rheoliad 9 o Reoliadau 2011 (taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001), rhaid i’r person hwnnw ddarparu cadarnhad i’r awdurdod lleol o’i enw a’i gyfeiriad.

(5) Onid yw’r cyd-destun yn mynnu fel arall, pan fo cynrychiolydd wedi ei benodi yn unol â pharagraff (3) neu (4), mae unrhyw gyfeiriad at D yn y rheoliad hwn neu yn rheoliadau 9 i 15 yn cynnwys cynrychiolydd y person hwnnw.

(6) Caniateir i unrhyw gais a wneir yn unol â pharagraff (2), neu benodiad a wneir yn unol â pharagraff (3), gael ei wneud neu’i gyfleu mewn ysgrifen neu ar lafar gan D, ond rhaid iddo gael ei gadarnhau gan awdurdod lleol mewn ysgrifen neu mewn unrhyw fformat arall sy’n briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu’r defnyddiwr gwasanaeth.

 

Cais am estyniad amser er mwyn darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth

9.(1) Rhaid i awdurdod lleol gydsynio ag unrhyw gais rhesymol am estyniad amser, a wneir yn unol â rheoliad 8(d).

(2) Os yw D yn gofyn am estyniad amser ar lafar, caiff awdurdod lleol roi ei ymateb i’r cais hwnnw ar lafar, ond rhaid iddo hefyd gadarnhau’r ymateb mewn ysgrifen, neu mewn unrhyw fformat arall sy’n briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu D.

(3) Wrth ymateb i gais am estyniad amser, rhaid i awdurdod lleol gadarnhau a yw’n caniatáu’r cais ai peidio, ac os yw’n ei ganiatáu, rhaid iddo ddatgan cyfnod yr estyniad.

(4) Pan fo awdurdod lleol yn gwrthod cais am estyniad amser, rhaid iddo roi ei resymau dros wrthod y cais.

Methiant i ymateb i wahoddiad i ofyn am asesiad modd

10.(1) Pan fo D yn peidio ag ymateb i wahoddiad yn unol â rheoliad 8, caiff awdurdod lleol benderfynu ei bod yn ofynnol i D dalu’r swm safonol tuag at y gost o sicrhau’r gwasanaeth a oedd yn destun y gwahoddiad.

(2) Mae pŵer awdurdod lleol i wneud yn ofynnol bod D yn talu’r swm safonol yn unol â pharagraff (1) yn ddarostyngedig i’r uchafswm rhesymol a ragnodir yn rheoliad 5.

(3) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, bydd yn ofynnol bod D yn talu’r swm safonol a osodir gan yr awdurdod lleol o’r dyddiad y darperir datganiad gan yr awdurdod lleol yn unol â rheoliad 19.

(4) Os yw D yn ymateb i wahoddiad i ofyn am asesiad modd yn unol â pharagraff (1) ar ôl i’r awdurdod lleol, benderfynu gwneud yn ofynnol bod D i dalu’r swm safonol neu, os yw’n berthnasol, yr uchafswm rhesymol—

(a)     rhaid i’r awdurdod lleol fynd ymlaen i gynnal asesiad o fodd D yn unol â rheoliadau 13 ac 16 ac i wneud penderfyniad ynghylch gallu D i dalu, yn unol â rheoliad 17;

(b)     ni fydd y camau a gymerir gan yr awdurdod lleol o dan is-baragraff (a) yn effeithio ar rwymedigaeth D i dalu unrhyw swm neu symiau y gwnaed yn ofynnol iddo’i dalu neu’u talu tuag at y gost o sicrhau gwasanaeth o’r dyddiad y darparwyd y datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3); ac

(c)     bydd y datganiad a ddarperir yn unol â rheoliad 19, o ganlyniad i’r asesiad a’r penderfyniad y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) (“yr ail ddatganiad”) (“the second statement”) yn disodli’r datganiad a ddarparwyd yn unol â pharagraff (3), a bydd yr ail ddatganiad yn cael effaith o’r dyddiad y’i darperir.

Methiant i gyflenwi’r holl wybodaeth a dogfennaeth perthnasol

11.(1) Pan fo D wedi methu—

(a)     cyflenwi, neu

(b)     ceisio estyniad amser ar gyfer cyflenwi,

yr holl wybodaeth a dogfennaeth y gofynnwyd amdanynt yn rhesymol gan awdurdod lleol o dan reoliad 7, caiff yr awdurdod lleol wneud asesiad o fodd D ar sail yr wybodaeth rannol neu’r ddogfennaeth rhannol (neu’r ddwy) a gyflenwyd.

(2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, caiff yr awdurdod lleol—

(a)     gwneud penderfyniad yn unol â rheoliad 17;

(b)     yn ddarostyngedig i’r uchafswm rhesymol a ragnodir yn rheoliad 5, gwneud yn ofynnol bod D yn talu swm ar sail ei benderfyniad; ac

(c)     mynd ymlaen i ddarparu datganiad yn unol â rheoliad 19.

(3) Pan fo awdurdod lleol yn penderfynu ei bod yn ofynnol i D dalu swm tuag at y gost o sicrhau darpariaeth o wasanaeth yn unol â pharagraff (2), bydd yn ofynnol i D dalu’r swm hwnnw o’r dyddiad y bydd yr awdurdod lleol yn darparu’r datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(c).

Tynnu cais am asesiad modd yn ôl

12.(1) Caiff D dynnu cais am asesiad modd yn ôl drwy hysbysu awdurdod lleol, ar unrhyw adeg cyn bo’r asesiad modd wedi ei gwblhau.

(2) Caiff D hysbysu’r awdurdod lleol o’r penderfyniad i dynnu cais am asesiad modd yn ôl ar lafar, mewn ysgrifen, neu mewn unrhyw fformat arall sy’n briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu D.

(3) Pan dynnir cais yn ôl yn unol â’r rheoliad hwn, caiff awdurdod lleol, yn ddarostyngedig i’r uchafswm rhesymol a ragnodir gan reoliad 5, wneud yn ofynnol bod D yn talu’r swm safonol tuag at y gost o sicrhau’r gwasanaeth a oedd yn destun y gwahoddiad i ofyn am asesiad modd.

(4) Mewn unrhyw achos pan fo D yn hysbysu awdurdod lleol ynghylch tynnu cais am asesiad modd yn ôl, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)     cydnabod cael yr hysbysiad, mewn ysgrifen ac mewn unrhyw fformat arall sy’n briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu D;

(b)     rhoi gwybod i D nad yw tynnu’r cais hwnnw yn ôl yn rhwystro cyflwyno cais pellach am asesiad modd, mewn perthynas â’r un gwasanaeth neu wasanaeth gwahanol; ac

(c)     rhoi gwybod i D pa un a fydd yn ofynnol iddo dalu’r swm safonol ynteu’r uchafswm rhesymol a ragnodir gan reoliad 5, tuag at y gost o sicrhau’r gwasanaeth y gwneir, neu y gellir gwneud, y taliad uniongyrchol ar ei gyfer.

(5) Pan wneir yn ofynnol i D dalu swm tuag at y gost o sicrhau gwasanaeth yn unol â pharagraff (3), bydd yn ofynnol i D dalu’r swm hwnnw o’r dyddiad y bydd yr awdurdod lleol yn darparu datganiad yn unol â rheoliad 19.

Dyletswydd i gynnal asesiad modd

13.(1) Os bodlonir pob un o’r amodau yn rheoliad 14, rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad o fodd D, pan fo D yn gofyn am asesiad o’r fath.

(2) Ond nid oes dyletswydd ar awdurdod lleol i gynnal asesiad modd o dan y Rheoliadau hyn yn yr amgylchiadau a ragnodir gan reoliad 15.

 

Amodau sy'n arwain at y ddyletswydd i gynnal asesiad modd

 

14.(1) Pennir yr amodau y cyfeirir atynt yn rheoliad 13(1) yn y paragraffau canlynol o’r rheoliad hwn.

(2) Amod 1 yw fod D—

(a)     yn cael cynnig o daliad uniongyrchol; neu

(b)     yn cael taliad uniongyrchol,

er mwyn sicrhau darpariaeth o wasanaeth.

(3) Amod 2 yw fod D yn gofyn am gynnal asesiad modd yn unol â’r Rheoliadau hyn gan yr awdurdod lleol a wnaeth y cynnig i wneud, neu sy’n gwneud, taliad uniongyrchol.

(4) Amod 3 yw fod D yn darparu i’r awdurdod unrhyw wybodaeth neu ddogfennau sydd ym meddiant D, neu sydd o dan ei reolaeth, ac y gofynnir amdanynt yn rhesymol gan yr awdurdod er mwyn cynnal asesiad modd.

Dim dyletswydd i gynnal asesiad modd

15. Nid oes dyletswydd ar awdurdod lleol i gynnal asesiad o fodd D—

(a)     pan fo’r amgylchiadau canlynol yn gymwys mewn perthynas â D—

                         (i)    bod penderfyniad a wnaed gan yr awdurdod yn unol â rheoliad 17 yn cael effaith,

                       (ii)    bod D, sy’n destun y penderfyniad, yn gofyn am i’r awdurdod gynnal asesiad modd yn unol â rheoliadau 13 ac 16,

                     (iii)    bod y cais yn ymwneud â gwasanaeth y mae’r penderfyniad yn berthynol iddo, a

                      (iv)    bod yr awdurdod o’r farn, yn rhesymol, na fu unrhyw newid perthnasol mewn amgylchiad er pan wnaed y penderfyniad; neu

(b)     yr aseswyd bod ar D angen, neu ei fod yn cael, gwasanaeth neu gyfuniad o wasanaethau y mae’r awdurdod lleol yn codi ffi unffurf amdano; neu

(c)     ei fod yn peidio ag ymateb i wahoddiad i ofyn am asesiad modd yn unol â rheoliad 8; neu

(d)     ei fod yn tynnu’n ôl ei gais am asesiad modd yn unol â rheoliad 12.

Proses yr asesiad modd

16.(1) Pan fo awdurdod lleol yn cynnal asesiad o fodd D yn unol â rheoliad 13, rhaid iddo sicrhau bod unrhyw broses asesu a ddefnyddir ganddo’n rhoi effaith i ofynion y rheoliad hwn.

(2) Wrth gynnal asesiad modd, os yw awdurdod lleol yn cymryd i ystyriaeth gynilion neu gyfalaf D, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)     yn ddarostyngedig i is-baragraff (b) ac i baragraff (3), gyfrifo cyfalaf D yn unol â darpariaethau Rhan 3 o Reoliadau 1992 (trin cyfalaf);

(b)     diystyru gwerth prif breswylfa’r D wrth gyfrifo cyfalaf y person hwnnw.

(3) Nid oes dim ym mharagraff (2) sy’n effeithio ar ddisgresiwn awdurdod lleol, wrth gyfrifo cyfalaf D, i gymhwyso unrhyw griteria sy’n fwy hael wrth D na’r criteria a gymhwysir o bryd i’w gilydd yn y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a).

(4) Wrth gynnal asesiad modd, os yw awdurdod lleol yn cymryd i ystyriaeth incwm D, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)     asesu pa ran o incwm D sy’n cyfansoddi’n briodol “enillion” (“earnings”) yn unol â’r diffiniad o “earnings” yn rheoliadau 35 a 37 o Reoliadau Budd-dal Tai 2006([13]) neu, yn ôl fel y digwydd, yn rheoliadau 35 a 37 o Reoliadau Budd-dal Tai (Personau sydd wedi cyrraedd oedran sy'n eu gwneud yn gymwys i gredyd pensiwn y wladwriaeth) 2006([14]);

(b)     diystyru’r enillion hynny yn llawn;

(c)     diystyru yn llawn unrhyw swm a gaiff D mewn perthynas â chredyd cynilion; a

(ch) diystyru yn llawn unrhyw daliad a gaiff D ac y cyfeirir ato ym mharagraff 24 o Atodlen 3 i Reoliadau 1992 (symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion)([15]).

(5) Nid oes dim ym mharagraff (4) sy’n effeithio ar ddisgresiwn awdurdod lleol, wrth gyfrifo incwm D, i gymhwyso unrhyw griteria sy’n fwy hael wrth D na’r darpariaethau ym mharagraff (4).

(6) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992([16]).

Penderfynu ynghylch gallu D i dalu

17.(1) Pan fo awdurdod lleol wedi cynnal asesiad o fodd D yn unol â rheoliadau 13 ac 16, rhaid i’r awdurdod lleol, yng ngoleuni’r asesiad hwnnw—

(a)     penderfynu a yw’n rhesymol ymarferol i D dalu’r swm safonol tuag at y gost o sicrhau darpariaeth o’r gwasanaeth; a

(b)     os yw’r awdurdod yn penderfynu nad yw’n rhesymol ymarferol i D dalu’r swm safonol, penderfynu, yn ddarostyngedig i’r uchafswm rhesymol a bennir gan reoliad 5, y swm (os oes un) y mae’n rhesymol ymarferol i’r person hwnnw ei dalu tuag at y gost o sicrhau darpariaeth o’r gwasanaeth.

(2) Rhaid i awdurdod lleol sicrhau nad yw unrhyw swm, y gwneir yn ofynnol ganddo bod D yn ei dalu tuag at y gost o sicrhau darpariaeth o wasanaeth, yn lleihau incwm net D—

(a)     pan fo D yn cael budd-dal perthnasol, i swm sy’n llai na chyfanswm y canlynol—

                         (i)    swm hawlogaeth sylfaenol D i’r budd-dal perthnasol y mae’r person hwnnw’n ei gael,

                       (ii)    swm o ddim llai na 35% o’r hawlogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (i) (“clustog”) (“a buffer”), a

                     (iii)    swm i ddigolledu D am ei wariant perthynol i’w anabledd, sef dim llai na 10% o’r hawlogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (i); neu

(b)     pan nad yw D yn cael budd-dal perthnasol, i swm sy’n llai na chyfanswm y canlynol—

                         (i)    swm a asesir yn rhesymol gan yr awdurdod lleol, o ystyried oedran, lefel anabledd ac amgylchiadau personol D, a fyddai’n hafal i hawlogaeth sylfaenol y person hwnnw i fudd-dal perthnasol,

                       (ii)    clustog o ddim llai na 35% o’r swm a amcangyfrifwyd ym mharagraff (i), a

                     (iii)    swm i ddigolledu D am ei wariant perthynol i’w anabledd, sef dim llai na 10% o’r swm a amcangyfrifwyd ym mharagraff (i).

(3) Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n effeithio ar ddisgresiwn awdurdod lleol i gynyddu canran y glustog neu’r swm i ddigolledu am unrhyw wariant perthynol i anabledd, wrth wneud penderfyniad yn unol â pharagraff (1).

Effaith penderfyniad ynghylch gallu D i dalu

18.(1) Pan fo awdurdod lleol yn gwneud penderfyniad yn unol â rheoliad 17 yn yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (2), ni chaiff wneud yn ofynnol bod unrhyw daliad yn cael ei wneud cyn y dyddiad y darperir datganiad yn unol â rheoliad 19.

(2) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw amgylchiadau pan fo defnyddiwr gwasanaeth—

(a)     wedi ei asesu am y tro cyntaf yn rhywun sydd arno angen gwasanaeth; neu

(b)     yn sicrhau darpariaeth o wasanaeth ar y pryd, ond y gwneir yn ofynnol am y tro cyntaf ei fod yn talu tuag at y gost o ddarparu’r gwasanaeth hwnnw.

(3) Pan fo awdurdod lleol yn gwneud penderfyniad pellach ynghylch gallu D i dalu yn unol â rheoliad 7(2), ni chaiff wneud yn ofynnol bod unrhyw daliad yn cael ei wneud, nac ychwaith newid unrhyw daliad sy’n cael ei wneud, cyn y dyddiad y darperir datganiad yn unol â rheoliad 19.

(4) Pan fo’r datganiad, y cyfeirir ato ym mharagraffau (1) neu (3), yn disodli datganiad a wnaed yn gynharach yn unol â rheoliad 19 (“y datganiad cynharach”) (“the earlier statement”), bydd y datganiad cynharach yn parhau i gael effaith tan y dyddiad y darperir y datganiad dilynol.

Datganiad o wybodaeth ynghylch ffioedd

19.(1) Pan fo awdurdod lleol wedi gwneud yn ofynnol bod D yn talu swm (neu wedi newid swm y taliad) tuag at gost sicrhau darpariaeth o wasanaeth, rhaid iddo ddarparu datganiad i D mewn ysgrifen, ac mewn unrhyw fformat hygyrch arall y gofynnir amdano yn rhesymol gan D.

(2) Rhaid i unrhyw ddatganiad a ddarperir gan awdurdod lleol yn unol â’r rheoliad hwn gynnwys y canlynol—

(a)     disgrifiad o’r gwasanaeth y gwneir yn ofynnol bod D yn talu tuag at sicrhau darpariaeth ohono;

(b)     manylion ynghylch y swm safonol y mae awdurdod lleol yn gwneud yn ofynnol bod D yn ei dalu tuag at y gost o sicrhau’r gwasanaeth;

(c)     os nad y swm safonol yw’r swm y gwneir yn ofynnol bod D yn ei dalu, manylion ynghylch swm y taliad gofynnol;

(ch) esboniad o’r modd y cyfrifwyd y swm y gwneir yn ofynnol bod D yn ei dalu (gan gynnwys manylion ynghylch unrhyw asesiad modd a ymgymerwyd yn unol â’r Rheoliadau hyn); a

(d)     manylion ynghylch hawl D i herio neu gwyno ynghylch swm y taliad, neu eglurder y modd y mynegwyd y datganiad.

(3) Rhaid darparu datganiad i D yn unol â’r rheoliad hwn—

(a)     yn ddi-dâl; a

(b)     o fewn un diwrnod ar hugain ar ôl y diwrnod y gwnaed y penderfyniad i wneud taliad yn ofynnol (neu i’w newid).

 

(4) Yn y Rheoliadau hyn, bydd datganiad, wedi ei “ddarparu” (“provided”) ar y dyddiad y’i dyroddir gan awdurdod lleol.

Arbediad

20. Yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, os yw—

(a)     asesiad o fodd D, neu

(b)     penderfyniad ynglŷn â’r swm y mae’n rhesymol ymarferol i D ei dalu tuag at y gost o sicrhau gwasanaeth,

yn cael effaith, bydd y cyfryw asesiad neu benderfyniad yn parhau i gael effaith, er nad yw wedi ei wneud yn unol â’r Rheoliadau hyn.

21.  Bydd unrhyw asesiad neu benderfyniad y cyfeirir ato yn rheoliad 20 yn parhau i gael effaith hyd nes disodlir gan asesiad neu benderfyniad a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn.

Darpariaeth drosiannol

22. Os yw awdurdod lleol, yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi cael gwybodaeth a dogfennaeth gan D i’w alluogi i—

(a)     cynnal asesiad o fodd D, neu

(b)     penderfynu ar y swm y mae’n rhesymol ymarferol i D ei dalu tuag at y gost o sicrhau gwasanaeth,

ond nad yw’r asesiad wedi ei gynnal, neu nad yw’r penderfyniad wedi ei wneud pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym, rhaid i’r awdurdod lleol gynnal y cyfryw asesiad yn unol â darpariaethau rheoliad 16 neu wneud y cyfryw benderfyniad yn unol â darpariaethau rheoliad 17.

Darpariaeth ddarfodol

23.(1) Pan fo asesiad  yn cael effaith yn unol â rheoliad 21—

(a)     rhaid i’r awdurdod lleol gymhwyso darpariaethau rheoliadau 4, 5, 6 ac 16 i’r cyfryw asesiad er na chynhaliwyd yr asesiad yn unol â’r Rheoliadau hyn, ac eithrio na fydd rheoliad 6(2) yn cael effaith,

(b)     ni fydd yn ofynnol i’r awdurdod lleol weithredu yn unol â rheoliad 7, ac eithrio y bydd rheoliad 7(2) yn cael effaith,

(c)     rhaid i’r awdurdod lleol gynnal asesiad o fodd D yn unol â rheoliadau 13 ac 16 os bodlonir pob un o’r amodau yn  rheoliad 14 ac os yw D wedi gofyn am asesiad o’r fath, ac

(ch) rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu ar y swm ynghylch gallu D ei dalu tuag at y gost o sicrhau gwasanaeth yn unol â rheoliad 17, fel pe bai’r asesiad o fodd D wedi ei gynnal yn unol â rheoliadau 13 ac 16.

 

(2) Mae rheoliad 18(4) yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad a wneir yn unol â pharagraff (1)(ch), fe pe bai’r datganiad cynharach y cyfeirir ato yn y rheoliad hwnnw yn benderfyniad sy’n cael effaith yn unol â rheoliad 21.

 

 

 

Gwenda Thomas

 

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

24 Mawrth 2011

 

 

 

 

 



([1])           2010 mccc 2 (“y Mesur”). Gweler adran 17 o’r Mesur am y diffiniad o “rheoliadau”.

([2])           1990 p. 19.

([3])           2000 p.16.

([4])           2002 p.16.

([5])           1992 p.4

([6])           2001 p. 15.

([7])           1971 p.80.

([8])           2007 p.5.

([9])           Diffinnir “ad-daliad” a “cyfraniad” yn adran 12(5) o’r Mesur.

([10])         2003 p.5.

([11])         1983 p. 20.

([12])         Am esboniad o ystyr “unrhyw fformat sy’n briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu’r person hwnnw”, gweler y canllawiau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru, sy’n dwyn yr enw Introducing More Consistency in Local Authority Charging for Non-Residential Social Services.

([13])         O.S. 2006/213.

([14])         O.S. 2006/214.

([15])         Disgrifir y taliadau, y cyfeirir atynt ym mharagraff 24 o Atodlen 3 i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992, ym mharagraff 39 o Atodlen 9 i Reoliadau Cymhorthdal Incwm  (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1967) (symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion) fel “any payment made  under or by the Macfarlane Trust, the Macfarlane (Special Payments) Trust, the Macfarlane (Special Payments) (No. 2) Trust...the Fund, the Eileen Trust, MFET Limited or the Independent Living Fund (2006).”.

([16])         O.S. 1992/2977.